Ashya King
Mae barnwr yn Sbaen wedi gorchymyn bod cwpl o Brydain, a oedd wedi mynd a’u mab 5 oed dramor yn groes i gyngor meddygon, yn cael eu cadw gan yr heddlu am 72 awr arall.
Roedd rhieni Ashya King, sy’n dioddef o ganser yr ymennydd, wedi ei gymryd o Ysbyty Cyffredinol Southampton bnawn dydd Iau heb ganiatâd meddygon cyn teithio i’r Costa del Sol yn Sbaen. Fe gawson nhw eu harestio ddoe.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llys Cenedlaethol yn Madrid bod y barnwr wedi dyfarnu y dylai
Brett King, 51, a’i wraig Naghmeh, 45, gael eu cadw yn y wlad tra bod y llys yn ystyried cais i’w hanfon yn ôl i Brydain.
Fe allai’r barnwr fod wedi caniatáu i’r rhieni gael eu rhyddhau tra bod eu hachos yn cael ei ystyried.
Ychwanegodd y llefarydd bod rhieni Ashya King wedi dweud wrth y barnwr nad oeddan nhw eisiau dychwelyd i’r DU.
Mae’n debyg nad oeddan nhw’n fodlon gyda’r driniaeth yr oedd Ashya yn ei gael gan y Gwasanaeth Iechyd ym Mhrydain a’u bod nhw am iddo gael triniaeth therapi Proton yn y Weriniaeth Siec.
Mae eu mab yn cael triniaeth mewn ysbyty yn Sbaen ar hyn o bryd.
Mae’r ganolfan sy’n cynnig therapi Proton (PTC) yn y Weriniaeth Siec ym Mhrag wedi cadarnhau eu bod yn fodlon trin Ashya ar unwaith petai’n gymwys i gael y driniaeth.
Fe fyddai’r gost yn cael ei drafod yn ddiweddarach, meddai cyfarwyddwr y ganolfan Iva Tatounova.
“Rydym ni yma ac yn barod i gyd-weithredu… y peth pwysicaf yw trin y plentyn yma,” meddai.
Ond fe fydd yn rhaid i feddygon ym Mhrydain gytuno y gallai Ashya gael y driniaeth.