Ashya King (llun gan yr heddlu)
Mae disgwyl i’r bachgen a gafodd ei gipio o ysbyty yn Southampton ddydd Iau gael ei ddychwelyd yno am driniaeth bellach.
Cafodd yr heddlu gael hyd Ashya King, 5 oed, gyda’i deulu yn ne Sbaen neithiwr.
Cafodd ei rieni Brett King a Naghemeh King, a oedd wedi mynd ag ef o’r ysbyty yn groes i gyngor meddygon, eu harestio, ac mae heddlu o Brydain ar eu ffordd i Sbaen i’w holi.
Bu heddlu sawl gwlad yn cydweithio i chwilio am y teulu ar ôl adroddiadau eu bod nhw ar y llong fferi o Southampton ddwyawr ar ôl ei gipio.
Roedd pryder bod bywyd Ashya, sy’n dioddef o diwmor yr ymennydd, mewn perygl heb y gofal arbenigol angenrheidiol.
Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Chris Shead o heddlu Hampshire:
“Nid oes gennym lawer o fanylion ar gyflwr Ashya ar hyn o bryd, ond gwyddom nad oedd yn dangos unrhyw arwyddion amlwg o ofid.
“Mae Ashya bellach wedi cael ei gymryd i ysbyty yn Malaga. Mae’r rhieni wedi cael eu harestio. Maen nhw mewn gorsaf heddlu.”
Mewn neges a gafodd ei phostio ar YouTube ychydig cyn iddyn nhw gael eu harestio, dywed Brett King iddyn nhw gymryd eu mab o’r ysbyty er mwyn ceisio triniaeth iddo yn y weriniaeth Czech.