Traeth Aberffraw (llun gan Donna Jennens)
Mae’r heddlu wedi enwi’r bachgen 12 oed sydd wedi bod ar goll yn y môr oddi ar arfordir gorllewinol Môn ers amser cinio ddoe.

Roedd Isaac Nash, o Huddersfield yn Swydd Efrog, ar wyliau gyda’i deulu pan gafodd ei lusgo ymaith gan donnau garw gerllaw Aberffraw.

Mae timau achub gwylwyr y glannau, badau achub, hofrennydd yr Awyrlu a’r heddlu wedi bod yn chwilio amdano yn ystod pob awr o olau dydd ers iddo fynd ar goll.

Meddai llefarydd ran Heddlu Gogledd Cymru:

“Cafodd tri bad achub eu lansio’r bore yma ac maen nhw’n dal i chwilio’r ardal gyda help hofrennydd yr heddlu.

“Mae swyddogion wedi bod yn cerdded ar hyd y glannau gydag aelodau o’r teulu a gwirfoddolwyr lleol.

“Mae tîm chwilio dan ddŵr yr heddlu hefyd wedi bod yn rhoi cymorth arbenigol yn ystod y prynhawn.”