Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn gwneud datganiad yn y Senedd ddydd Llun i gyhoeddi camau y mae’r Llywodraeth am eu cymryd yn erbyn terfysgaeth.
Fe fydd y rhain yn cynnwys deddfwriaeth i’w gwneud hi’n haws cymryd pasports pobl er mwyn eu rhwystro rhag teithio i Irac neu Syria.
“Mae angen gwneud mwy i rwystro pobl rhag teithio, i rwystro’r rheini sydd wedi mynd rhag dod yn ôl, a mynd i’r afael yn llym â’r rheini sydd yma eisoes,” meddai.
Bydd y datganiad yn dilyn cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May ddoe fod y perygl o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain wedi codi o ‘sylweddol’ i ‘difrifol’ – sef bod ymosodiad yn ‘debygol iawn’.
Mae dyfalu y gall y Llywodraeth gyflwyno mesurau eraill llymach yn ogystal, yn sgil galwadau am bwerau i orfodi ‘alltudiaeth fewnol’ ar bobl sy’n cael eu hamau o derfysgaeth.
Fe fydd David Cameron yn pwyso hefyd am fesurau llymach gan yr Undeb Ewropeaidd yn erbyn terfysgaeth mewn cyfarfod o arweinwyr yr Undeb ym Mrwsel.