Mae tua 1,000 o brotestwyr wedi bod yn gorymdeithio trwy strydoedd Casnewydd ar drothwy uwch-gynhadledd Nato yr wythnos nesaf.

Cychwynnodd y brotest y tu allan i Lys y Goron yn y ddinas tua hanner dydd, pryd y daeth tyrfa fawr i ddangos eu gwrthwynebiad i’r uwch-gynhadledd, ac i’r gynghrair filwrol o 28 o wledydd y gorllewin.

Fe fydd dros 150 o benaethiaid gwladwriaethau a gweinidogion yn bresennol yn yr uwch-gynhadledd deuddydd yng ngwesty’r Celtic Manor ar gyrion y ddinas ddydd Iau a dydd Gwener.

Mae’r trefniadau diogelwch ar gyfer yr achlysur yn cynnwys 9,500 blismyn o 43 o wahanol heddluoedd ym Mhrydain a 12 milltir o ffensiau sydd wedi eu gosod o gwmpas safleoedd allweddol yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Roedd y brotest heddiw wedi denu pobl o America, Gwlad Belg, Ffrainc ac Iwerddon yn ogystal ag o bob rhan o Gymru a gweddill Prydain.

Yfory, fe fydd y protestwyr, sy’n aros mewn gwersyll heddwch ym Mharc Tredegar yn y ddinas, yn cynnal ‘uwch-gynhadledd amgen’.

Gwaethygu’r sefyllfa

Ymhlith y gorymdeithwyr roedd un o hoelion wyth CND, Bruce Kent.

“Twf parhaus Nato sy’n gyfrifol am y problemau presennol gyda Rwsia,” meddai.

“Petaech chi’n edrych ar y peth o’u safbwynt nhw, fe fyddech chwithau’n bryderus ynghylch y presenoldeb milwrol cynyddol ar garreg eich drws.

“Mae angen inni feddwl am ffyrdd heddychlon o ddatrys problemau yn lle gwaethygu’r sefyllfa trwy fygwth fel mae Nato wedi bod yn ei wneud.

“Mae angen inni ddweud Na wrth Nato a Na i arfau niwclear.

“Byddai’n llawer gwell i’r arian sy’n cael ei wario ar Trident gael ei wario ar iechyd neu addysg.”

Un arall a gymerodd ran oedd Pippa Bartolotti, arweinydd Plaid Werdd Cymru, a fynegodd bryder fod Nato wedi newid cyfeiriad:

“Mae’r Nato y mae llawer o bobl yn ei gofio fel llu ar gyfer amddiffyn wedi troi’n rym ymosodol heb i neb sylwi’n iawn bod y newid cynnil yma wedi digwydd dros y 10 i 15 mlynedd ddiwethaf,” meddai.