Tesco )Mankiknd CCA 2.0)
Mae’r argyfwng masnachu yng nghwmni Tesco yn parhau wrth i’r taliadau i gyfranddalwyr gael eu torri 75%.
Mae’r cwmni archfarchnadoedd hefyd wedi rhybuddio y bydd eu helw eleni yn is na’r disgwyl – tua £2.5 biliwn yn hytrach na’r £3.3 biliwn a wnaethon nhw y llynedd.
Fe fyddai hynny’n is na disgwyliadau’r Ddinas.
Gweithredu
Yn ogystal â thorri’r taliad difidend am bob cyfran i 1.16 ceiniog, mae’r cwmni hefyd wedi torri are u cynlluniau i wario i wella siopau.
Ac fe fydd y Prif Weithredwr newydd, Dave Lewis, yn dechrau ei waith ddydd Llun, fis ynghynt na’r disgwyl.
Ei waith cynta’ fydd cynnal arolwg holl fusnes Tesco ar ôl i’w ragflaenydd gael ei wthio o’r swydd oherwydd perfformiad siomedig y cwmni.
“Blaenoriaeth y Bwrdd yw gwella perfformiad y grŵp,” meddai Cadeirydd Tesco, Syr Richard Broadbent. “Rydym wedi gweithredu’n ddoeth a chlir yn unswydd i sicrhau hynny.”