Syr Mike Rake
Fe all annibyniaeth i’r Alban effeithio ar yr adferiad economaidd, nid yn unig yno, ond ar draws gwledydd Prydain, meddai arweinydd cymdeithas y diwydianwyr.

Fe rybuddiodd llywydd y CBI, Syr Mike Rake, fod peryglon “enfawr” o bleidlais Ie ar 18 Fedi.

Ond mae grŵp o bobol fusnes sydd o blaid annibyniaeth wedi taro’n ôl.

“Mae’r Alban wedi mwy na thalu ei ffordd a chael ychydig yn ôl. Mae hi’n glir i ni nad yw Llywodraeth Prydain yn talu digon o sylw i faterion sydd o bwys busnesau’r Alban a’u bod wedi eu hudo gan fwg a drychau dinas Llundain,” meddai Cadeirydd y grŵp o blaid annibyniaeth, Busnes i’r Alban, Tony Banks

‘Aros yn yr Undeb Ewropeaidd’

Fe ddywedodd Syr Mike Rake hefyd wrth ginio’r gymdeithas yn yr Alban ei bod hi’n hanfodol i’r Deyrnas Unedig aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae marchnadoedd agored yn rhan allweddol o economi agored,” meddai Syr Mike Rake, sydd hefyd yn Gadeirydd Grŵp BT a Dirprwy Gadeirydd Banc Barclays,. “Os ydyn ni wedi ein hynysu, dydyn ni ddim yn gallu bod ar ein gorau.

Dywedodd bod Prydain wedi ei huno gan “bragmatiaeth cryf, synnwyr cyffredin a realaeth”. Ychwanegodd: “Dyna pam rwy’n credu’n gryf y dylen ni barhau i fod yn Deyrnas Unedig, o fewn Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei ddiwygio, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobol; twf, swyddi a ffyniant i bawb.”

Condemnio

Fe gafodd y CBI eu condemnio ynghynt eleni am ddangos eu hochr yn ymgyrch y refferendwm, ond fe ddywedodd Syr Mike Rake, bod rhaid iddyn nhw fynegi barn.

“Mae gan y CBI yr hawl a dyletswydd i godi cwestiynau am y refferendwm ar faterion sydd o ddiddordeb cyfreithlon i fusnesau, i weithwyr, i bobol Prydain.

“Mae ein golwg ni ar bethau’n seiliedig ar ffeithiau caled economaidd a dyw’r CBI ddim yn gweld unrhyw dystiolaeth y byddai pobol yr Alban a Phrydain yn elwa yn economaidd o ganlyniad i annibyniaeth.

“Yn wir, i’r gwrthwyneb. Mae’n creu ansicrwydd real ac fe fydd yn parhau hi greu ansicrwydd a all niweidio’r adferiad yn yr Alban ac ar draws Prydain.”