Nigel Farage
Mae arweinydd y blaid wrth Ewropeaidd UKIP, Nigel Farage yn disgwyl i ragor o wleidyddion ymuno â’i blaid pe bai Douglas Carswell yn ennill yr is-etholiad i ddod yn Aelod Seneddol cynta’r blaid yn San Steffan.
Fe fydd is-etholiad yn cael ei gynnal yn Clacton yn dilyn penderfyniad yr aelod Ceidwadol asgell dde i ymuno â’r blaid wrth-Ewrop ddoe.
Dywed Farage ei fod yn disgwyl i ragor o aelodau seneddol ymuno o’r Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr – mae wedi sôn am gymaint â 15.
Ychwanegodd fod nifer helaeth “nid yn unig yn cefnogi UKIP yn llawn yn yr hyn y mae’n ceisio’i gyflawni ond hefyd yn gweld effaith mewnlifiad drws agored a’i effeithiau ar fywydau pobol gyffredin yn fater cynyddol frys.”
Isetholiad ‘yn allweddol’
Dywedodd Nigel Farage fod isetholiad Clacton yn allweddol i ddyfodol ei blaid ac i “wleidyddiaeth trwy Brydain gyfan”.
Wrth ymuno â UKIP, dywedodd Douglas Carswell nad yw’n credu bod polisi Prif Weinidog Prydain, David Cameron ar refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn “ddiffuant”.
Mae sylwebwyr yn awgrymu y gallai hyd at wyth o Geidwadwyr symud i UKIP yn y dyfodol agos ond fe fyddai’r disgwyl arnyn nhw i ymddiswyddo a chynnal isetholiad yn debyg o wneud i rai ailfeddwl.
Gallai is-etholiad Clacton gael ei gynnal yn yr wythnosau nesaf – fe fydd ei angen rhwng 21 a 27 diwrnod wedi ymddiswyddiad Carswell o’r Blaid Geidwadol.