Mae Arolygaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC) wedi dweud bod Heddlu De Swydd Efrog yn treulio “cryn dipyn o amser” yn ceisio gwrthbrofi datganiadau gan bobol sy’n dioddef ymosodiadau rhyw a thrais.
Ddiwrnodau’n unig wedi cyhoeddi adroddiad ar gam-drin plant yn Rotherham, mae’r Arolygaeth wedi dweud bod “diwylliant annerbyniol” o fewn yr heddlu dan sylw sy’n dangos “diffyg ystyriaeth o bobol sy’n dioddef”.
Dywedodd yr adroddiad fod rhai o’r troseddau mwyaf difrifol ar gofnod yr heddlu’n cael eu “diystyru” oherwydd diwylliant o “ymchwilio dim ond er mwyn cofnodi”.
Daeth yr adroddiad i’r casgliad hwnnw yn dilyn archwiliad o gofnodion yr heddlu rhwng Tachwedd 2012 a Hydref 2013, oedd yn dangos nad oedd nifer o’r achosion wedi cael eu cofnodi’n gywir.
Canlyniad hynny, meddai’r adroddiad, oedd bod y sawl sydd wedi dioddef yn dal mewn perygl.
Daw’r adroddiad wrth i Gomisiynydd Heddlu De Swydd Efrog, Shaun Wright wynebu cryn bwysau i ymddiswyddo yn sgil yr adroddiad i gam-drin plant yn Rotherham, oedd yn dangos bod 1,400 o blant wedi cael eu cam-drin rhwng 1997 a 2013.
Roedd Wright yn bennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Rotherham rhwng 2005 a 2010.
Allan o 152 o gofnodion yr heddlu o ddigwyddiadau, roedd arolygwyr o’r farn y dylid fod wedi cofnodi 117 o droseddau.
Roedd bron i chwarter o’r troseddau heb eu cofnodi.