Fe fydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal rhwng undebau a Llywodraeth Prydain i geisio dod ag anghydfod tros bensiynau diffoddwyr tân i ben.

Mae cyfres o streiciau eisoes wedi cael eu cynnal yng Nghymru a Lloegr yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i newid cynlluniau pensiwn y gweithwyr ac i ymestyn yr oedran pan fyddan nhw’n gallu ymddeol.

Dywed Undeb y Brigadau Tân (FBU) fod ymestyn yr oedran yn golygu y bydd mwy o risg y bydd rhaid i weithwyr ymddeol oherwydd salwch ac y byddan nhw’n colli rhannau helaeth o’u pensiwn o ganlyniad.

Bydd swyddogion yr undeb yn cyfarfod â’r Gweinidog Tân Penny Mordaunt yr wythnos nesaf cyn i ragor o drafodaethau gael eu cynnal.