Mae nifer y mewnfudwyr a ddaeth i wledydd Prydain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cynyddu i 243,000 – cynnydd o 70,000 yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth.

Mae’n ergyd i ymdrechion Llywodraeth Prydain i leihau nifer y mewnfudwyr i’r DU.

Mae’r ffigwr yn mesur y gwahaniaeth rhwng y nifer sy’n cyrraedd a gadael gwledydd Prydain yn ystod y flwyddyn.

Mae lle i gredu mai cynnydd yn nifer y bobol o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy’n gyfrifol am y ffigwr, er gwaethaf ymdrechion i leihau’r ffigwr i 100,000 erbyn yr etholiad cyffredinol fis Mai’r flwyddyn nesaf.

O 560,000 a ddaeth i wledydd Prydain yn ystod y cyfnod, daeth 214,000 ohonyn nhw o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

‘Anodd cynnal cymdeithas’

Yn dilyn cyhoeddi’r ffigurau, dywedodd Gweinidog Mewnfudo a Diogelwch Llywodraeth Prydain, James Brokenshire fod “mewnfudo heb ei reoli ar raddfa fawr yn ei gwneud hi’n anodd cynnal cydlyniad cymdeithasol”.

Ychwanegodd fod mewnfudo hefyd yn “rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac yn gostwng cyflogau”.

Ond dywedodd fod Llywodraeth Prydain wedi lleihau mewnfudo net o un chwarter ers i’r ffigwr gyrraedd ei lefel uchaf o dan y Llywodraeth Lafur flaenorol.