Mae oddeutu 200 o arweinwyr busnes wedi arwyddo llythyr agored sy’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban.

Maen nhw’n dadlau y byddai dod yn annibynnol yn gwneud lles i economi’r Alban.

Ymhlith y rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr mae pennaeth Stagecoach, pennaeth Clyde Blowers a chyn-bennaeth y cwmni betio William Hill.

Dywed y llythyr gafodd ei gyhoeddi yn y papur newydd Albanaidd The Herald heddiw fod “annibyniaeth er lles economi’r Alban a’i phobol”.

Ychwanega y byddai rhagor o bwerau’n “cryfhau nifer o feysydd yr economi gan roi mwy o fantais mewn byd sy’n gynyddol gystadleuol”.

Mae’r llythyr yn pwysleisio y byddai annibyniaeth yn sicrhau rhagor o swyddi i bobol ifanc y wlad gael aros i weithio.

Mewn ergyd i San Steffan, dywed y llythyr nad yw “llywodraethau’n rhoi digon o sylw i fuddiannau economi’r Alban”.

Alistair Carmichael

Daw’r newyddion ar y diwrnod y mae Ysgrifennydd Gwladol Yr Alban, Alistair Carmichael wedi dweud y byddai’n gadael Llywodraeth Prydain pe bai’r Alban yn dod yn annibynnol.

Ddydd Llun, gwahoddodd Alex Salmond aelodau o ddwy ochr y ddadl i uno pe bai’r Alban yn dod yn annibynnol, a hynny er mwyn amlinellu amodau’r drefn newydd.

Carmichael, sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol, yw’r aelod seneddol mwyaf blaenllaw o griw ‘Better Together’ i ddatgan ei fod yn barod i drafod amodau, ac mae Llywodraeth Yr Alban wedi croesawu ei ymrwymiad.