Mae Downing Street wedi mynnu nad oes cais wedi bod i Brydain ymuno ag ymosodiadau o’r awyr ar ymladdwyr IS (Islamic State), ac nad yw’r mater yn cael ei drafod ar hyn o bryd.

Yn ôl adroddiadau mae Barack Obama yn gobeithio dod i gytundeb gyda’r cynghreiriaid i ddod yn rhan o’r ymgyrch o’r awyr erbyn Uwchgynhadledd Nato wythnos nesaf.

Mae’r Unol Daleithiau wedi cynnal nifer o ymosodiadau o’r awyr ar IS yng ngogledd Irac mewn ymgais i helpu lluoedd Cwrdaidd ac Irac i frwydro yn erbyn yr ymladdwyr.

Mae The Times yn adrodd bod y Pentagon wedi bod yn ystyried y posibilrwydd o gael cynghreiriaid yn y gorllewin fel Prydain ac Awstralia, a thaleithiau yn y Gwlff, i ymuno mewn ymgyrch ehangach yn erbyn y grŵp yn Syria.