David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi annog arweinwyr gwleidyddol Afghanistan i ffurfio llywodraeth ddemocrataidd cyn dechrau Uwch Gynhadledd NATO yng Nghasnewydd.
Mewn sgwrs gyda Dr Ashraf Ghani a Dr Abdullah Abdullah ddoe, roedd Cameron wedi annog y ddau i gadw at gytundeb a gafodd ei amlinellu gan Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry.
Ghani ac Abdullah ddaeth i’r brig yn rownd gyntaf yr etholiad ym mis Ebrill ond does dim enillydd unigol ar hyn o bryd yn dilyn honiadau o dwyll yn dilyn yr ail rownd ym mis Mehefin.
Dywedodd Cameron fod Uwch Gynhadledd NATO yn gyfle i fyfyrio ar y cynnydd sydd wedi cael ei wneud yn Afghanistan yn ystod y degawd diwethaf, ac i edrych ar ffyrdd y gall NATO gefnogi llywodraeth y wlad yn y dyfodol.
Er gwaetha’r ffrae, dywedodd y ddau ymgeisydd ddechrau’r haf y byddai’r enillydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Awst.
Mae Uwch Gynhadledd NATO yn cael ei chynnal yng ngwesty’r Celtic Manor ar Fedi 4 a 5.