Shaun Wright
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Swydd Efrog wedi ymddiheuro am fethiannau Cyngor Rotherham yn ystod y cyfnod y bu’n gwasanaethu fel aelod o’r cyngor, wrth i’r pwysau arno i ymddiswyddo gynyddu yn dilyn cyhoeddi adroddiad damniol.

Roedd Shaun Wright yn gynghorydd Llafur yn Rotherham nes iddo gael ei ethol i rôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn 2012.

Roedd hefyd yn aelod o’r cabinet a oedd yn gyfrifol am wasanaethau plant yn y dref rhwng 2005 a 2010.

Y llynedd, dywedodd Shaun Wright bod “methiannau wedi bod yn rheolaeth” Heddlu De Swydd Efrog wrth iddo ymateb i adroddiad i’r heddlu gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi (HMIC).

‘Methiannau’

Yn ôl yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddoe, roedd tua 1,400 o blant wedi cael eu hecsbloetio yn rhywiol yn Rotherham dros gyfnod o 16 mlynedd.

Roedd yr adroddiad wedi bod yn ymchwilio i ddigwyddiadau yn Rotherham rhwng 1997 a 2013, gan ddod i’r casgliad bod cyfres o fethiannau wedi bod yn arweinyddiaeth Cyngor Rotherham.

Fe gyhoeddodd arweinydd y cyngor, Roger Stone, ddoe y bydd yn gadael ei swydd ar unwaith.

Mae’r pwysau bellach yn cynyddu ar Shaun Wright i ymddiswyddo.

Dywedodd arweinydd grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gyngor Dinas Sheffield, Colin Ross: “Shaun Wright oedd y cynghorydd oedd yn gyfrifol am wasanaethau plant yng Nghyngor Rotherham ac roedd hefyd yn aelod o Awdurdod Heddlu De Swydd Efrog pan oedd y ddau sefydliad yn gwybod am y lefel o ecsbloetio plant yn rhywiol, ond wedi dewis gwneud dim am y peth.

“Mae’n anodd gweld sut y gall pobl leol fod a hyder ynddo i barhau fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd.”

Ymddiheuro

Mae ASE Ukip yn Swydd Efrog a Humber, Jane Collins, hefyd wedi galw ar Shaun Wright i gamu o’i swydd gan ddweud ei fod yn warthus na fydd unrhyw un yn y cyngor yn cael eu diswyddo na’u disgyblu o ganlyniad i’r adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Shaun Wright ei fod “eisoes wedi ymddiheuro am fethiannau Cyngor Rotherham tra roedd yn aelod o’r cabinet rhwng 2005 a 2010. Mae’n ymddiheuro eto ac yn derbyn y gallai mwy fod wedi ei wneud gan bawb yng Nghyngor Rotherham i fynd i’r afael a’r drosedd ofnadwy yma.

“Ers iddo ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Swydd Efrog mae wedi sicrhau mai ei brif flaenoriaeth yw mynd i’r afael ag ecsbloetio plant yn rhywiol.”