Fe fydd y Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn derbyn bron i £4m gan Lywodraeth Cymru er mwyn prynu ac uwchraddio eu cerbydau.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, heddiw ac fe ddywedodd y byddai 41 o ambiwlansys newydd yn cael eu prynu gyda’r cyllid, gan gynnwys cerbydau ymateb arbenigol llai o faint.

Ychwanegodd y byddai’r cerbydau ychwanegol yn cyfrannu at greu gwasanaeth mwy dibynadwy ac effeithlon gan sicrhau bod cleifion yn cael eu trin gyda’r cyfarpar diweddaraf.

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi methu eu targedau, sef i ymateb i alwadau brys o fewn wyth munud, bron i bob mis ers dwy flynedd.

‘Dibynadwy’

Dywedodd Mark Drakeford: “Mae’r galw am gymorth y Gwasanaeth Ambiwlans yn uchel iawn bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae’r gwasanaeth yn derbyn degau o filoedd o alwadau brys bod mis ac mae nifer y digwyddiadau lle mae bywydau bobol mewn peryg wedi codi bron i 30% yn y pum mlynedd ddiwethaf.

“Bydd y cyllid newydd yn gymorth i ddarparu gwasanaethau clinigol o safon uchel, i wella’r gofal i gleifion ac i gynnig awyrgylch gwaith gwell i’r staff.”

Ychwanegodd Heather Ransom, Pennaeth Adnoddau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:

“Mae prynu cerbydau newydd yn golygu bod ein fflyd yn parhau yn fodern, dibynadwy ac yn addas i’r galw. Fe fydd y buddsoddiad yn ein galluogi i barhau i wella safon ein gwasanaeth ar gyfer pobol Cymru.”