Mae Banc Brenhinol yr Alban (RBS) wedi cael dirwy o £14.5 miliwn gan gorff rheoleiddio’r Ddinas.
Mae’n dilyn methiant y banc i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael cyngor addas am forgeisi.
Yn ôl yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) dim ond dau o’r 164 o’r morgeisi gafodd eu hadolygu rhwng mis Mehefin 2011 a mis Mawrth 2013 oedd yn cael eu hystyried o’r safon angenrheidiol yn y broses o werthu morgeisi.
Darganfu bod RBS a’r adran werthu NatWest wedi methu ystyried cyllid y cwsmer wrth wneud argymhellion.
Fe fydd RBS a NatWest yn cysylltu â 30,000 o gwsmeriaid er mwyn eu galluogi i godi unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am y cyngor maen nhw wedi ei gael.
Dywed RBS ei fod wedi newid y broses o werthu morgeisi ac wedi ail-hyfforddi ei staff yn sgil canfyddiadau’r rheoleiddiwr ar ddiwedd 2012.
Ond yn ôl yr FCA roedd RBS wedi oedi cyn cymryd y camau angenrheidiol.