Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddyn yng Nghasnewydd.
Yn ystod y digwyddiad y tu allan i glwb Ferns, ar Ffordd Lliswerry nos Fercher 20 Awst, cafodd dyn 23 oed o ardal Casnewydd ei drywanu yn ei glun. Aed ag o i Ysbyty Brenhinol Gwent, ond mae o bellach wedi gadael.
Cafodd dyn 22 oed o ardal Casnewydd ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.