Mae nyrs o Brydain sy’n dioddef o Ebola wedi cael ei drin gyda chyffur arbrofol, meddai staff meddygol heddiw.
Mae William Pooley, y person cyntaf o Brydain i gael ei heintio gydag Ebola, yn cael triniaeth yn Ysbyty’r Royal Free yn Llundain.
Dywedodd yr ymgynghorydd Dr Michael Jacobs, arweinydd yr adran clefydau heintus yn yr ysbyty, bod William Pooley wedi cael ei drin gyda’r cyffur Zmapp.
“Mae’n feddyginiaeth arbrofol ac rydym ni wedi gwneud hynny’n hollol glir yn ein trafodaethau gydag ef,” meddai Dr Jacobs.
Mae dau weithiwr dyngarol o’r Unol Daleithiau oedd wedi cael eu heintio gydag Ebola, wedi gwella ar ôl cael eu trin gyda Zmapp.
Cafodd William Pooley, 29 oed, ei heintio ar ôl bod yn gweithio fel nyrs gwirfoddol yn Sierra Leone.