Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cael dirwy o £180,000 gan y corff sy’n goruchwylio data am fethiannau difrifol yn y ffordd mae carchardai wedi diogelu gwybodaeth yn ymwneud a charcharorion, dioddefwyr ac ymwelwyr.
Roedd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyflwyno’r ddirwy ar ôl i wybodaeth ar gyfrifiadur yng ngharchar Erlestoke yn Wiltshire fynd ar goll ym mis Mai’r llynedd.
Roedd y cyfrifiadur yn cynnwys gwybodaeth sensitif a chyfrinachol am oddeutu 2,935 o garcharorion gan gynnwys manylion am eu hiechyd, camddefnydd o gyffuriau, a’u cysylltiadau a throseddau trefnedig. Roedd hefyd yn cynnwys manylion am ddioddefwyr ac ymwelwyr.
Roedd ymchwiliad yr ICO wedi darganfod nad oedd y gwasanaeth carchardai wedi amgryptio’r wybodaeth, sy’n cael ei ddefnyddio i ddiogelu data, ym mhob un o’r 75 o garchardai yng Nghymru a Lloegr.