Llun o'r dyn sy'n cael ei amau o'r ymosodiadau
Mae’r heddlu yn Abertawe wedi lansio apêl o’r newydd i geisio dod o hyd i ddyn sy’n cael ei amau o ymosod ar dri aelod o’r cyhoedd yng nghanol y dref.

Honnir i’r dyn ymosod ar y tri pherson ar ôl gofyn iddyn nhw am gael benthyg eu ffonau symudol yn oriau man y bore ar 1 Ionawr ar Stryd Fawr Abertawe ger yr orsaf drên.

Ar ôl apelio am wybodaeth ar raglen Crimewatch, y cyfryngau lleol a thrwy wefannau cymdeithasol, mae’r heddlu yn apelio am gymorth y cyhoedd unwaith eto i adnabod y dyn.

Dywed yr heddlu ei fod yn gwisgo crys t golau gyda logo amlwg ar y blaen.

“Mae’r dyn wedi cerdded o gwmpas y Stryd Fawr yng nghanol y dref ac wedi ymosod ar dri o bobol ar ôl gofyn am fenthyg eu ffonau symudol,” meddai’r Arolygydd Rhodri Davies.

“Roedd hyn yn ddigwyddiad anghyffredin iawn lle mae’r dyn wedi troi’n dreisgar tuag at aelodau o’r cyhoedd nad oedd o’n eu hadnabod.”

Gofynnir i unrhyw un a gwybodaeth am y dyn i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.