Mae pob un o’r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi cytuno i weithredu canllawiau newydd stopio a chwilio Llywodraeth y DU.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent ymhlith 24 o luoedd yr heddlu fydd yn gweithredu’r canllawiau ar unwaith. Bydd y lluoedd eraill yn eu gweithredu erbyn mis Tachwedd.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dweud bod pwerau stopio a chwilio’n cael eu camddefnyddio mor aml nes ei fod yn niweidio’r berthynas rhwng y cyhoedd a’r heddlu.
Bydd yr heddlu nawr yn gorfod cofnodi pob enghraifft o stopio a chwilio.
Daw’r newidiadau ar ôl i Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi ddarganfod bod 27% o achosion o stopio a chwilio yn digwydd heb reswm digonol.
Bydd hefyd mwy o gyfyngiadau ar ddefnyddio stopio a chwilio o dan Adran 60 sy’n rhoi’r hawl i’r heddlu stopio a chwilio rhywun heb amheuaeth.
Ond, mae ymgyrchydd wedi galw am i bwerau stopio a chwilio gael eu diddymu’n gyfan gwbl.
Dywedodd Ken Hinds, o Grwp Monitro Stopio a Chwilio Haringey, ei fod wedi cael ei stopio mwy na 120 o weithiau gan yr heddlu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Mae hefyd yn cyhuddo’r heddlu o ddefnyddio proffilio hiliol.
Mae pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig hyd at chwe gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na phobl croenwyn – ond mewn rhai ardaloedd maen nhw 29 gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio.