Mae AC Ceidwadol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar ei fflyd o geir gyda gyrwyr sy’n cael eu defnyddio i gludo Gweinidogion.

Yn ôl y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw gan y Ceidwadwyr, fe gododd costau cadw’r ceir 50% y llynedd.

Dywedodd Byron Davies AC y dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru ddilyn arweiniad yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, Stephen Crabb, sydd wedi penderfynu peidio teithio mewn Jaguar a gafodd fel rhan o’i swydd newydd er mwyn arbed arian i’r trethdalwyr.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae deg car Llywodraeth Cymru wedi costio dros £400,000 i’w cadw dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r ffigurau yn cynnwys cynnal a chadw’r ceir, biliau petrol, yswiriant a threth ffordd, ond tydi’r ffigwr ddim yn cynnwys cyflogau’r gyrwyr.

Mae ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn dangos bod cyflogau’r gyrwyr  yn 2012-13 wedi bod yn £276,100 ychwanegol.

‘Rhagrith’

Dywedodd Byron Davies AC sy’n cynrychioli de orllewin Cymru: “Nid yw pobl Cymru’n talu eu trethi fel bod Gweinidogion Llafur yn gallu teithio o gwmpas mewn ceir crand gyda’u gyrwyr eu hunain.

“Mae’r rhagrith yn syfrdanol.  Mae Gweinidogion Llafur yn sefyll yn Siambr y Cynulliad ac yn pregethu am drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy, ac yna’n teithio adref mewn ceir sy’n cael eu hariannu gan drethdalwyr.

“Os na all Gweinidogion Llafur ddod a’r costau i lawr, fe ddylen nhw un ai ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu yrru eu hunain i’w gwaith, fel pawb arall.”