Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam
Bydd Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yn clywed heddiw beth yw canlyniad eu hapêl yn erbyn gwaharddiad rhag noddi myfyrwyr tramor yn dilyn honiadau bod rhai ohonyn nhw wedi twyllo mewn profion iaith Saesneg.

Ym mis Mehefin, collodd y brifysgol yr hawl i noddi myfyrwyr tramor yn dilyn ymchwiliad i gwmni Education Testing Services (ETS) o America, wnaeth ddarganfod dros 29,000 o ganlyniadau annilys a 19,000 o ganlyniadau amheus drwy Brydain.

Fe wnaeth y Brifysgol apelio yn erbyn y gwaharddiad ac mae disgwyl y byddan nhw’n clywed beth yw’r canlyniad heddiw.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru, Aled Roberts, fis diwethaf ei fod yn bryderus am ddyfodol ariannol Prifysgol Glyndŵr petai nhw’n colli’r hawl i noddi myfyrwyr tramor.