Ian Gough
Bydd chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru yn cael ei ddedfrydu heddiw wedi iddo’i gael yn euog o ymosod ar ei gyn gariad, a chyn Miss Cymru, Sophia Cahill, ychydig ddyddiau ar ôl iddi ddyweddïo a’r seren bop, Dane Bowers.

Roedd Sophia Cahill yn crio wrth roi tystiolaeth fis diwethaf pan wnaeth hi ddisgrifio’r ffordd wnaeth Ian Gough ei gwthio hi i mewn i ddrws ei camperfan VW gwyn.

Meddai Sophia Cahill ei bod wedi bod mewn  sioc ac wedi cynhyrfu  ar ôl yr ymosodiad ar 5 Ionawr eleni ac esboniodd bod Ian Gough wedi bod awr yn hwyr yn dychwelyd eu mab dwy flwydd oed, Gabriel.

Dim ond ychydig ddyddiau cyn yr ymosodiad roedd Sophia Cahill wedi bod mewn damwain car a oedd wedi achosi anaf i’w gwddf. Dywedodd bod yr ymosodiad wedi gwneud ei hanaf hi’n waeth.

Roedd Ian Gough wedi dadlau na fyddai wedi gallu ymosod ar Sophia Cahill oherwydd bod ganddo  anaf i’w goes ar y pryd a chyhuddodd y fodel o regi arno ac ymosod ar ei gar.

Ond cafwyd Gough yn euog yn Llys Ynadon Croydon yn Llundain a bydd yn cael ei ddedfrydu heddiw.

Mae Ian Gough wedi ennill 64 o gapiau i dîm rygbi Cymru ac mae o ar hyn o bryd yn chwarae i dîm Dreigiau Casnewydd.