Y Rhyl
Mae trip diwrnod i lan y môr allan o gyrraedd un o bob pump o deuluoedd Prydain, yn ôl yr elusen plant Barnado’s.
O edrych ar gostau tocynnau trên, pryd o bysgod a sglodion, eli haul a hufen ia, daeth yn amlwg y byddai teithiau o wahanol ddinasoedd yn Lloegr yn costio’n ddrud i deulu o bedwar:
- £117 am ddiwrnod yn y Rhyl i deulu o Birmingham
- £95 am ddiwrnod yn Margate, Caint, i deulu o Lundain
- £77 am ddiwrnod yn Blackpool i deulu o Fanceinion.
Yn ôl Barnado’s, dim ond £39 fyddai ar gael ar gyfer diwrnod allan gan yr 20% o’r teuluoedd tlotaf, sydd wedi cael eu taro’n galed gan gynnydd mewn costau byw a thoriadau mewn budd-daliadau.
Meddai prif weithredwr Barnado’s, Javed Khan:
“Mae pob plentyn yn haeddu diwrnod allan o bryd i’w gilydd, waeth beth fo’u hamgylchiadau.
“Beth bynnag y tywydd, mae diwrnod ar lan y môr gyda’r teulu’n ddiwrnod i’w drysori ac yn gyfle y dylai pob plentyn ei fwynhau.
“I gannoedd o deuluoedd sy’n cael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd y penwythnos yma, dim ond breuddwyd gwrach yw trip i lan y môr.”