Y Prif Weinidog David Cameron (o wefan Rhif 10)
Mae disgwyl y bydd y Prif Weinidog David Cameron yn bygwth cefnogi tynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd os bydd yn methu ag adennill pwerau o Frwsel.

Hyd yma mae wedi gwrthod dweud y byddai’n ymgyrchu dros i Brydain adael petai’n methu â chael y newidiadau y mae’n pwyso amdanyn nhw.

Yn ôl ffynhonnell o’r llywodraeth sy’n cael ei ddyfynnu ym mhapur newydd y Times, mae hyn yn debyg o newid, ac fe all wneud rhybudd o’r fath yng nghynhadledd y Torïaid yn yr hydref.

Mae eisoes wedi addo y byddai llywodraeth Dorïaidd yn cynnal refferendwm ar aelodaeth o’r UE erbyn diwedd 2017 ar ôl ail-drafod perthynas Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’n edrych yn fwyfwy tebygol mai methiant fydd ei ymgais i gael y newidiadau mae arno eu heisiau, yn enwedig ar ôl penodiad diweddar y ffederalydd Jean-Claude Juncker fel llywydd y Comisiwn Ewropeaidd.