Richard Attenborough
Mae’r teyrngedau wedi bod yn llifo i’r actor a’r cyfarwyddwr ffilm Richard Attenbourough a fu farw ddoe yn 90 oed.
Daeth i amlygrwydd fel actor yn yr 1940au mewn ffilmiau fel Brighton Rock, ac mae wedi bod yn wyneb cyfarwydd i genedlaethau wedi hynny fel un o’r carcharorion rhyfel yn y Great Escape sy’n cael ei darlledu pob Nadolig.
Yn ddiweddarach daeth i fri pellach fel cyfarwyddwr ffilm, gan ennill Oscar am ei gampwaith Gandhi a gyhoeddwyd yn 1982. Parhaodd i actio yn ei henaint, gan ymddangos yn The Chess Players a Jurassic Park.
Roedd yn frawd i’r naturiaethwr David Attenborough.
Ymgyrchydd
Yn fab i rieni â daliadau cryf dros gyfiawnder cymdeithasol, chwaraeodd Richard Attenborough ran flanllaw mewn amrywiol ymgyrchoedd ar hyd ei oes.
Fe fu’n ymgyrchydd brwd yn erbyn apartheid, a lansiodd sawl elusen, gan gynnwys un i ddioddefwyr tsunami de-ddwyrain Asia yn 2004 ar ôl i’w ferch a’i wyres gael eu lladd yn y trychineb.
Mae ffigurau amlwg o fyd gwleidyddiaeth yn ogystal â ffilm wedi talu teyrngedau iddo.
Yn ôl y Prif Weinidog David Cameron, roedd Richard Attenborough “yn un o gewri byd y sinema”, a dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur:
“Credai’n angerddol mewn cyfiawnder cymdeithasol a’r Blaid Lafur ac roedd yn ymgyrchydd cryf yn erbyn apartheid. Bydd colled fawr ar ei ôl.”
Mewn datganiad, cafodd ei ddisgrifio gan yr academi ffilmiau, BAFTA fel “un o gewri byd sinema Prydain” a osododd esiampl o “ddiwydrwydd, sgil, a thrugaredd” i genedlaethau i ddod.
Ac meddai’r actor Syr Roger Moore:
“Roeddwn yn drist iawn o glywed bod y cawr Richard Attenborough wedi’n gadael ni. Dyn mor ryfeddol a dawnus.”