Mae dyn yn ei arddegau wedi’i gyhuddo o yrru bws yn feddw allan o orsaf fysus yn ne-ddwyrain Lloegr.

Fe gafodd Heddlu Essex eu galw toc cyn 4yb ddoe (dydd Sadwrn) wedi adroddiadau fod bws wedi cael ei yrru allan o ddepo yn Colchester heb ganiatâd.

Fe gafodd y cerbyd ei stopio gan yr heddlu tua 20 munud yn ddiweddarach, ac fe gafodd Ashley Barrell, 19, ei arestio.

Mae bellach wedi’i gyhuddo o gymryd cerbyd, o yfed dan ddylanwad alcohol, o yrru heb drwydded, ac o yrru heb yswiriant.

Mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, i ymddangos gerbron Llys Ynadon Colchester ar Fedi 9.