Mae daeargryn yn mesur 6.0 ar y raddfa ryngwladol wedi’i gofnodi yn ardal Bae San Francisco, Califfornia.

Fe darodd y daeargryn toc cyn 3.30yb amser lleol, tua 10 milltir i’r gogledd-orllewin o American Canyon.

Dyma’r cryndod mwya’ yn yr ardal oddi ar daeargryn Loma Prieta yn 1989 – roedd hwnnw’n mesur 6.9.

Does dim adroddiadau ar hyn o bryd fod neb wedi’i anafu yn y digwyddiad, ond fe wnaeth y daeargryn beri i larymau ceir ddechrau seinio yn ystod y nos. Fe gollodd rhai ardaloedd eu cyflenwad trydan.

Y gred ydi fod canolbwynt y daeargryn tua saith milltir o dan ddaear. Mae nifer o ôl-gryniadau wedi’u teimlo yn ardal Napa.