Gwanwyn cynnar a thymor tyfu “bendigedig” sydd i’w gyfri’ am gynhaeaf da o ffrwythau’r hydref, yn ôl arbenigwyr.

Mae’r Royal Horticultural Society (RHS) wedi cadarnhau fod ffrwythau fel afalau a gellyg wedi aeddfedu rai wythnosau ynghynt nag arfer, ac y bydd y rhan fwya’ o arddwyr hefyd yn profi cynhaeaf da.

“Mae pob peth yn dod ychydig ynghynt nag arfer,” meddai Guy Barter o’r RHS, “er y bydd y nosweithiau oer yr ydan ni wedi’u profi yn ddiweddar yn arafu tipyn ar bethau.

“Mae’r holl dymor wedi bod yn gynnar eleni,” meddai wedyn. “Rydan ni wedi cael tymor tyfu bendigedig gyda dim rhew, tywydd da… a dyma ni gyda’r hydref ar y ffordd, a’r ffrwythau’n aeddfedu’n gynnar hefyd.

“Fe gawson ni law er mwyn i’r coed lenwi â ffrwythau. Pan gawn ni hafau sych, gall afalau fod yn fychan ac yn galed… ond eleni, mae’n stori wahanol. Mae digon o haul wedi bod i felysu’r ffrwythau.”