Mae cwmni ynni wedi dechrau ar y gwaith o adfer cyflenwad nwy i ryw 150 o dai ym Mlaenau Gwent.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gollodd 755 o dai eu cyflenwad wedi i bibell ddwr fawr fyrstio ac amharu ar y rhwydwaith nwy.

Heddiw, mae cwmni Wales and West Utilities wedi cadarnhau eu bod wedi dechrau ar y gwaith yn Limestone Road, Limestone Road East, Chapel Road a Ty Heulwen. Y gobaith, meddai’r cwmni, yw adfer y cyflenwad dros y 24 i 48 awr nesa’.

“Mae dros 100,000 litr o ddwr wedi’i bwmpio allan hyd yn hyn,” meddai datganiad Wales and West Utilities, “ac r’yn ni’n parhau â’r gwaith pwmpio.

“Roedd y dwr wedi cronni mewn mannau yn y rhwydwaith nwy, ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd iddo a phwmpio’r cyfan allan, cyn y gallwn ni adfer y cyflenwad nwy.”