Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad gyda marwolaeth dyn mewn bocs cargo yn nociau Tilbury.

Mae Stephen McLaughlin, 34, o Limavady, Gogledd Iwerddon, a Timothy Murphy, 33 o Elmgrove, Derry, ill dau wedi’u cyhuddo o gynllwynio i ddod a mewnfudwyr anghyfreithlon i mewn i wledydd Prydain.

Mae’r ddau yn yrwyr lori, ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Chelmsford heddiw.

Fe gafwyd corff marw Meet Singh Kapoor, 40, oAfghanistan, y tu mewn i focs cargo yn y porthladd yn Essex ddydd Sadwrn diwetha’, Awst 16.