heddlu
Mae dau o bobol, yn cynnwys bachgen 14 oed, a gafodd eu harestio ar amheuaeth o dreisio merch ifanc yn y Reading Festival, wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth.

Fe riportiodd y ddynes 19 oed iddi ddiodde’ ymosodiad rhywil mewn carafan ar safle’r masnachwyr nos Iau yr wythnos hon.

Roedd hi, yn gynharach, wedi cyfarfod dyn a bachgen ar un o’r meysydd gwersylla.

Fe gafodd bachgen 14 oed o Surrey a dyn 31 oed o Lundain eu harestio gan Heddlu Thames Valley, cyn cael eu rhyddhau ar fechniaeth tan Hydref 6. Mae’r ymchwiliad yn parhau.