Fe allai’r safle ynni llanw mwyaf yn y byd gael ei adeiladu ar arfordir Yr Alban o fewn dwy flynedd, ar ôl i Lywodraeth Prydain roi £10m at y fenter.
Bydd prosiect Meygen, yn ardal Pentland Firth yng ngogledd yr Alban, yn cynhyrchu 398MW o bŵer fydd yn ddigon i ddarparu ynni adnewyddadwy i 175,000 o gartrefi.
Mae disgwyl i’r datblygiad greu 100 o swyddi, gan bron i ddyblu faint o ynni llanw sydd yn cael ei gynhyrchu ym Mhrydain pan fydd rhan gyntaf y prosiect wedi’i orffen.
Mae angen £51m er mwyn datblygu’r rhan gyntaf hwnnw, fydd yn cynhyrchu 6MW o ynni, ac mae £10m o’r arian hwnnw wedi dod gan Lywodraeth San Steffan.
Ymysg y grwpiau eraill sydd yn ariannu’r prosiect mae Atlantis Resource Limited, Scottish Enterprise, Highlands and Islands Enterprise ac Ystadau’r Goron.
Mae disgwyl i waith adeiladu ar y pedwar tyrbin cyntaf ddechrau eleni, yn y gobaith y bydd trydan yn cael ei ddarparu i’r grid cenedlaethol erbyn 2016.
Fe groesawyd y newyddion heddiw gan RenewableUK, cymdeithas sydd yn cynrychioli’r diwydiannau ynni adnewyddadwy gwynt a morol.
“Mae hwn yn ddiwrnod gwych i’r diwydiant ac yn gam mawr ymlaen wrth ddechrau prosiectau llanw masnachol,” meddai prif weithredwr RenewableUK Maria McCaffery.
“Rydym wedi symud gam yn agosach tuag at weld ynni llanw yn cyflawni’i photensial mawr a dod yn gyfrannwr mawr yn y cyflenwad trydan.
“Mae’r newyddion yma’n cadarnhau lle Prydain yn bellach fel arweinydd yn y byd pan mae’n dod i ynni llanw,” ychwanegodd.