Y Gweinidog Twristiaeth wedi ei phlesio
Cyn i ŵyl y banc ola’r flwyddyn gyrraedd, mae Croeso Cymru wedi cyhoeddi pa atyniadau Cymreig wnaeth ddenu’r mwyaf o ymwelwyr y llynedd.
Y deg atyniad mwyaf poblogaidd sy’n rhaid talu i ymweld â nhw oedd:
1. Canolfan Hamdden LC, Abertawe
2. Folly Farm, Sir Benfro
3. Portmeirion, Penrhyndeudraeth
4. Parc Gwledig Margam, Castell-nedd Port Talbot
5. Castell Conwy
6. Tramffordd y Gogarth, Llandrillo yn Rhos
7. Castell Caernarfon
8. Sŵ Mynydd Cymru a’r Gerddi Botanegol, Bae Colwyn
9. Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd, Y Felinheli
10. Castell Caerffili
A’r deg atyniad ‘mynediad am ddim’ mwya’ poblogaidd oedd:
- Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
- Sain Ffagan; Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd
- Amgueddfa Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
- Parc Gwledig Pen-bre
- Prosiect Amgueddfa Caerdydd
- Fforest a Chanolfan Ymwelwyr Cwmcarn
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
- Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston, Morgannwg
- Parc Gwledig Loggerhead, Sir Fflint
Canmoliaeth
Yn ymateb i’r canlyniadau, mae Edwina Hart, y Gweinidog Twristiaeth, wedi canmol diwydiant ymwelwyr Cymru. Dywedodd ei bod wedi gweld ansawdd, arloesedd a buddsoddi da yn y busnesau twristiaeth y bu hi’n ymweld â nhw dros yr haf.
“Yn ddiweddar, rwyf wedi gweld tirweddau a threftadaeth ddiwydiannol Cymru’n cael eu defnyddio mewn dull arloesol i ddatblygu twristiaeth.
“Mae’r atyniadau yng Ngheudyllau Llechwedd yn ddatblygiadau eiconig sy’n rhoi Cymru ar y map yn rhyngwladol fel prifddinas llawn antur. Zip World Titan yw’r ‘weiren wib’ mwyaf yn y byd a Bounce Below yw’r maes chwarae tanddaearol cyntaf yn y byd.
“Mae’r digwyddiadau mawr a gynhaliwyd yng Nghymru dros yr haf wedi codi proffil Cymru ledled y byd. Bu’r golffwyr mwyaf adnabyddus yn y byd yn chwarae ym Mhencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn Rolex yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Hefyd, fe wnaethom groesawu Gareth Bale gartref i chwarae yn y ‘Super Cup’ – gëm sy’n cael ei gwylio gan lawer o gefnogwyr o Sbaen gan roi hwb mawr i economi’r ardal hefyd.
“Mae ffigurau Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn dangos bod chwarter cyntaf 2014 yn bositif i Gymru ac rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau ar gyfer y Pasg a’r haf. Dylai’r ffigurau hyn ddangos bod y diwydiant yn tyfu’n gynyddol. Rydym hefyd ar y ffordd i greu twf o 10% yn y diwydiant erbyn 2020.”