Gobaith trefnydd Gŵyl Ger y Môr, sy’n digwydd yn Arena Digwyddiarau’r Rhyl brynhawn Llun Gŵyl y Banc, yw dathlu diwylliant Cymraeg a hybu’r iaith yn y dref.
A rhan o hynny fydd denu’r di-Gymraeg a dangos iddyn nhw fod diwylliant Cymraeg yn fyw ac yn fywiog.
Cafodd y trefnydd, Julie Howatson-Broster, y syniad o roi gŵyl ymlaen ar ôl treulio prynhawn wrth y llwyfan perfformio ar Faes yr Eisteddfod yn Ninbych y llynedd yng nghwmni Pennaeth Adran Farchnata, Cyfathrebu a Hamdden Cyngor Sir Ddinbych, Jamie Groves.
“Roedd pawb yn hapus, yn gwylio’r bandiau,” meddai Julie Howatson-Broster sy’n berchen ar gwmni harddwch yn Ninbych, “ac mi wnaeth [Jamie Groves] gael gymaint o’r awyrgylch nad oedd o wedi’i brofi o’r blaen. Mi ddywedodd wrtha’ i – ‘dw i eisio ail-greu hwn rywle yn Sir Ddinbych’.”
Fe fydd Bryn Fôn, Meinir Gwilym, Piantel, Moniars, Gwibdaith Hen Frân a Sŵnami ac eraill yn perfformio yn yr ŵyl gynta’ o’i bath – i lenwi bwlch lleol.
“Rydan ni yn gwybod bod y Rhyl yn tueddu bod efo lot o’r di-Gymraeg – twristiaid, a phobol sy’n dod i mewn o’r trefi gwahanol,” meddai Julie Howatson-Broster. “Dydyn nhw ddim yn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad ar y stryd fawr na dim byd.
“Mae’n grêt bod twristiaeth yn dod i mewn ond mae llawer ohonyn nhw yn ddi-Gymraeg, ond dw i’n meddwl weithiau mae dipyn o wal rhwng y ddau – unai rhywbeth Saesneg neu rywbeth Cymraeg a dim byd yn y canol.”
Mwy yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.