Mae’r ddynes fusnes ddi-flewyn-ar-dafod, Katie Hopkins, wedi cytuno i fagu pwysau ac yna ei golli ar gyfer rhaglen deledu newydd.
Mae Katie Hopkins wedi gwneud sawl sylw dadleuol ynglŷn â gordewdra ar y teledu, gan gynnwys dweud na fyddai hi’n cyflogi person tew. Dywedodd hefyd y dylai “pobol ordew fwyta llai a symud mwy gan stopio beio pawb arall am broblemau y gallen nhw eu datrys”.
Ar gyfer y ddwy raglen deledu fe fydd hi’n ceisio magu tair stôn ac yna ei golli eto, er mwyn profi bod ei sylwadau’n dal dŵr.
Bydd y rhaglenni’n cael eu darlledu ddechrau’r flwyddyn nesaf.