Fe fydd arweinwyr undebau yn cwrdd â gweinidogion Llywodraeth Prydain heddiw i drafod yr anghydfod dros bensiynau diffoddwyr tân.

Mae aelodau Undeb y Frigâd Dân yng Nghymru a Lloegr wedi cynnal 40 streic ers i’r ddadl godi tros flwyddyn yn ôl, ar ôl i’r llywodraeth gyhoeddi y bydd rhaid iddyn nhw weithio hyd 60 oed yn hytrach na 55 a chael amodau pensiwn newydd.

Yn ôl yr undeb, fe fyddai gweithwyr sy’n gorfod ymddeol cyn 60 oed yn colli 47% o’u pensiynau ac y gallai fod yn beryglus i bobol weithio’n hŷn mewn swydd gorfforol anodd.

Dadl y Llywodraeth yw bod diffoddwyr tân yn cael bargen well na gweithwyr eraill y sector cyhoeddus, ac na fydd y newidiadau’n effeithio ar dri chwarter aelodau’r undeb.

Cyfarfod

Bydd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb yr FBU, Matt Wrack, yn cwrdd â’r gweinidog tân, Penny Mordaunt, i drafod y sefyllfa yn ddiweddarach heddiw.

Mewn llythyr i’r gweinidog, dywedodd Matt Wrack: “Mae UFD yn barod i drafod ffordd ymlaen, ac wedi bod ers y cychwyn. Nid ydym ni wedi cerdded i ffwrdd o drafodaethau nac wedi gwrthod cyfarfod.

“Rydym felly yn gobeithio y byddwch yn mynychu’r cyfarfod gyda chynigion newydd, mewn ymateb i’r pryderon rydym wedi eu codi.”

Ym mis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Gogledd Iwerddon ei bod yn bwriadu gadael i ddiffoddwyr tân ymddeol yn 55 oed, dan amodau eu pensiynau presennol.