Mae prisiau tai yng Nghymru yn dal i fod yn is nag yr oedden nhw cyn y chwalfa economaidd yn 2008.

Mae hynny’n gwbl groes i’r sefyllfa yn Llundain, lle mae prisiau yng nghanol a gorllewin y ddinas ar gyfartaledd fwy na 40% yn  uwch nag yr oedden nhw.

Yno, 29% yw’r cynnydd lleia’ – yn yr East End – ac mae cynnydd wedi bod ar draws de Lloegr, heblaw am Gernyw ac Ynys Wyth.

Mae’r ffigurau’n arwydd o fwlch mawr rhwng gwahanol rannau o Gymru a Lloegr, meddai Rightmove, y cwmni sy’n mesur y newidiadau.

  • Yn ne Cymru, mae prisiau 1.9% yn is nag yn 2008. Pris tŷ ar gyfartaledd yw £166,577.
  • Yn y Gogledd a’r Canolbarth, maen nhw 6.9% yn is. Pris tŷ ar gyfartaledd yw £186,004.

Yng nghanol Llundain, mae prisiau tai ar gyfartaledd wedi croesi £1.5 miliwn a £384,511 yw’r lefel yn nwyrain y ddinas.