John Barrett yn ei ddyddiau yn aelod seneddol (John Barrett CCA 1.0)
Mae dau gyn aelod amlwg o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban wedi datgan eu cefnogaeth i bleidlais Ie yn y refferendwm annibyniaeth.
Fe fydd penderfyniad cyn AS Gorllewin Caeredin, John Barrett, a Dr Michael Foxley, cyn arweinydd Cyngor yr Ucheldiroedd – sydd wedi gweithio gyda Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys – yn cael ei ystyried yn hwb i Alex Salmond a’r SNP.
Dywedodd John Barrett ei fod wedi bod yn ansicr sut y dylai bleidleisio yn y refferendwm ond ei fod wedi dod i benderfyniad bellach.
Mae o’r farn y bydd aelodau eraill o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhannu ei olwg ar bethau.
‘Gorau, gwell’
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wastad wedi cymryd y lein ein bod yn cefnogi Teyrnas Unedig ffederal, ond nid dyna sydd ar y papur pleidleisio,” meddai John Barrett.
“Penderfynodd yr arweinyddiaeth ymuno gyda Gwell Gyda’n Gilydd [yr ymgyrch Na]. Ond dw i wedi penderfynu mai’r opsiwn gorau, gwell, nesaf yw pleidleisio Ie ar 18 Fedi.
Ac yntau’n gyn feddyg, roedd Michael Foxley’n dweud ei fod yn seilio’i benderfyniad ar y profiad hwnnw.“Dw i wedi gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd ers dros 40 mlynedd ac dw i wedi fy argyhoeddi, bod siawns well o sicrhau fod y gwasanaeth yn gryf, gwydn ac yn darparu gofal am ddim mewn Alban annibynnol.”