Stadiwm Dinas Caerdydd
Mae’r ail ddyn yn achos negeseuon hiliol honedig Malky Mackay wedi gadael ei swydd gyda chlwb Crystal Palace.

Mae Iain Moody wedi ymddiswyddo o fod yn Gyfarwyddwr Pêl-droed y clwb lle’r oedd wedi mynd ar ôl bod yn gydweithiwr i Mackay yng Nghaerdydd.

Oddi ar ei gyfrifiadur ef y daeth yr e-byst yn yr achos – yn ôl honiadau Caerdydd, roedden nhw’n llawn o negeseuon hiliol a homoffobig a rhai dilornus o ferched.

‘Diswyddo’

Cafodd y ddau eu diswyddo gan Gaerdydd y tymor diwethaf, ac mae Caerdydd bellach wedi anfon ffeil o wybodaeth at y Gymdeithas Bêl-droed yn Llundain yn cynnwys y negeseuon rhwng y ddau.

Nhw hefyd oedd ynghanol anghydfod gyda pherchennog Caerdydd, Vincent Tan, tros gytundebau prynu a gwerthu chwaraewyr.

Fe ddaeth yr e-byst i’r golwg wrth i gyfreithwyr ymchwilio i gyhuddiad gan Gaerdydd fod Crystal Palace wedi cael gafael ar enwau tîm Caerdydd cyn gêm yn eu herbyn.

Mae Caerdydd bellach yn ystyried cymryd camre cyfreithiol yn erbyn y clwb o Lundain.

‘Ymddiswyddo’

‘‘Yn sgil y digwyddiadau, mae Iain Moody wedi ymddiswyddo o fod yn Gyfarwyddwr Pêl-droed Crystal Palace,’’ meddai’r clwb mewn datganiad.

Wedi i’r Cymro, Tony Pulis, adael swydd rheolwr Crystal Palace yr wythnos ddiwetha’, Mackay oedd y ffefryn clir i gymryd yr awenau ym Mharc Selhurst ac i ailymuno â Moody.

Roedd Palace yn credu bod yr anghydfod rhwng Caerdydd a Macky a Moody wedi gorffen pan ymddiheurodd y pâr i berchennog Caerdydd, Vincent Tan y flwyddyn diwethaf a gollwng eu cais am iawndal am golli eu swyddi.

Mae’r FA wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn adroddiad manwl am faterion sy’n ymwneud â’r pâr o’u hamser yng Nghaerdydd.