Torrodd Jacques Rudolph record am y cyfanswm unigol mwyaf yn hanes Morgannwg mewn gemau Rhestr A wrth i’r Cymry guro Swydd Sussex o wyth wiced yn Hove mewn gêm 50 pelawd yng Nghwpan Royal London neithiwr.
Sgoriodd Rudolph 169* oddi ar 150 o belenni wrth i Forgannwg gwrso 329 i ennill yr ornest yn y gwpan yr oedd Morgannwg eisoes allan ohoni cyn neithiwr.
Mae’r cyfanswm yn trechu’r 162 gan Viv Richards yn erbyn Swydd Rydychen yn Sain Helen yn 1993 yng Nghwpan Natwest.
Yr un garfan a gollodd yn erbyn Eirth Birmingham yn Sain Helen yr wythnos diwethaf gafodd ei henwi ar gyfer y daith i Hove.
Cyrhaeddodd batwyr agoriadol Siarcod Swydd Sussex yr hanner cant yn y nawfed pelawd cyn i Dean Cosker daro coes Chris Nash o flaen y wiced, a’r cyfanswm wedi cyrraedd 71-1.
Yn fuan wedi i’r wiced gyntaf gwympo, cyrhaeddodd Luke Wright ei hanner cant oddi ar 43 o belenni a chyrhaeddodd y Siarc y cant yn y bedwaredd belawd ar bymtheg, wrth i’r troellwyr Dean Cosker ac Andrew Salter gael eu clatsio i bob cyfeiriad.
Wrth i’r bowliwr cyflym Michael Hogan a’r bowliwr lled-gyflym David Lloyd ddisodli’r troellwyr, gawson nhw fawr o lwc chwaith wrth i Wright a Craig Cachopa arwain y sir i 150.
Daeth ail wiced i Forgannwg wrth i Salter fowlio Cachopa am 45 wrth i’r Siarcod gyrraedd 170-2.
Yn dilyn toriad byr oherwydd y glaw, cafodd yr ornest ei chwtogi i 48 pelawd yr un, ac fe ddechreuodd y cyfnodau clatsio ym mhelawd rhif 37, ac fe gyrhaeddodd y siarcod 200 yn fuan wedyn.
Parhaodd y clatsio hyd nes i Wright (127 – ei gyfanswm gorau mewn gornest Rhestr A) gam-ergydio oddi ar belen gan Michael Hogan yn syth i ddwylo’r wicedwr Mark Wallace.
Cyrhaeddodd Harry Finch ei hanner canred oddi ar 37 o belenni wrth i’r clatsio barhau, ac fe orffennodd y batiad ar 92 heb fod allan, a’r Siarcod wedi cyrraedd 323-3.
Yn cwrso nod o 329 am y fuddugoliaeth, wedi’i haddasu trwy ddull Duckworth-Lewis, dechreuodd y batiad yn hyderus i Forgannwg wrth i Rudolph a Jim Allenby ergydio Yasir Arafat a Lewis Hatchett i’r ffin droeon yn y pelawdau agoriadol.
Ond collodd Morgannwg eu wiced gyntaf gyda’r cyfanswm yn 31, wrth i Allenby daro’r bêl yn syth i ddwylo’r bowliwr Hatchett, ac fe ddaeth Gareth Rees i’r llain.
Cafodd Fynn Hudson-Prentice gêm gyntaf i’w hanghofio wrth i Rudolph a Rees ei glatsio wrth i Rudolph gyrraedd ei hanner cant oddi ar 55 o belenni.
Fawr o lwc gafodd y troellwyr Will Beer a Chris Nash chwaith, wrth i’r ergydion i’r ffin gynyddu’r cyfanswm yn gyflym i Forgannwg.
Daeth partneriaeth o gant i Rudolph a Rees wrth i’r batiwr llaw chwith gyrraedd ei hanner cant oddi ar 50 o belenni wrth dynnu Hudson-Prentice am bedwar.
Cyrhaeddodd Rudolph ei ganred oddi ar 93 o belenni wrth i’r gyfradd sgorio barhau’n gyson i Forgannwg.
Ond gyda’r cyfanswm yn 204, cafodd Rees ei redeg allan gan Ed Joyce am 60.
Daeth Murray Goodwin i’r llain a tharo Hudson-Prentice am chwech oddi ar ei belen gyntaf, ac roedd Morgannwg wedi cyrraedd 228-2 erbyn i’r ail gyfnod clatsio ddechrau ym mhelawd rhif 36.
Adeiladodd Rudolph a Goodwin bartneriaeth gryf wrth i Goodwin gyrraedd ei hanner canred oddi ar 26 o belenni, cyn i Rudolph gyrraedd 150 oddi ar 135 o belenni ac fe gyrhaeddodd Morgannwg 30 ym mhelawd rhif 43.
Daeth partneriaeth o gant i Rudolph a Goodwin o fewn 11 o belawdau, ond collodd Goodwin ei wiced wedi iddo sgorio 59, wrth i Yasir Arafat ddarganfod ei goes o flaen y wiced.
Torrodd Rudolph y record undydd gyda chyfres o ergydion i’r ffin a sengl cyn taro Matt Machan am bedwar i sicrhau’r fuddugoliaeth o wyth wiced gydag wyth o belenni’n weddill o’r batiad.