Mackay - llosgi ar ol chwarae efo Tan?
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd wedi mynnu eu bod nhw’n condemnio unrhyw sylwadau sarhaus am hil, rhyw neu rywioldeb – ond wedi ymatal rhag ymateb yn benodol i’r honiadau o gwmpas cyn reolwr y clwb, Malky Mackay.

Fe gyhoeddodd papur y Daily Mail adroddiad heddiw yn honni fod Mackay, cyn-reolwr Caerdydd, ac Iain Moody, ei bennaeth recriwtio ar y pryd, wedi anfon negeseuon e-bost a tecst ffiaidd at ei gilydd yn ystod eu cyfnod gyda’r clwb.

Yn ôl yr adroddiad roedden y negeseuon rhwng y ddau yn cynnwys sylwadau hiliol, homoffobig a rhai’n dilorni merched, ac yn cyfeirio at bobol roedden nhw’n delio â nhw yn eu busnes gyda’r clwb – gan gynnwys chwaraeon.

Mae’n ymddangos i’r negeseuon ddod i’r amlwg ar ôl ymchwiliad i ymddygiad Moody gyda’i glwb presennol, Crystal Palace – ar ôl iddo gael gafael ar wybodaeth gyfrinachol ynglŷn â thîm Caerdydd cyn i’r ddau dîm herio’i gilydd.

Cefnogwyr yn condemnio

Mae Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr, oedd yn un o’r grwpiau fu’n protestio yn erbyn penderfyniad cadeirydd Caerdydd Vincent Tan i ddiswyddo Mackay, nawr wedi ymateb.

“Mae’r Ymddiriedolaeth yn condemnio sylwadau hiliol, gwrth-hoyw a rhai’n dilorni merched yn llwyr, pryd bynnag a ble bynnag y cânt eu gwneud,” meddai Tim Hartley, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth.

“Nid ydym wedi gweld manylion y ddogfen sydd yn cynnwys y sylwadau honedig a wnaed gan ein cyn-reolwr Malky Mackay.

“Mae’r ddogfen wedi’i hanfon gan y clwb i’r Gymdeithas Bêl-droed ac rydym yn aros am ganlyniad unrhyw ymchwiliad. Fyddai hi ddim yn iawn i ni drafod y peth yn bellach heb fod gwybodaeth fanwl yn cael ei ryddhau.”

Tan yn gyfrifol?

Fe ddaeth yr honiadau i’r amlwg wrth i glwb Crystal Palace baratoi i benodi Mackay yn rheolwr newydd – maen nhw bellach wedi tynnu’r cynnig yn ôl.

Mae rhai cefnogwyr nawr yn awgrymu mai cyhoeddi’r wybodaeth am y negeseuon honedig rhwng Mackay a Moody oedd ffordd Vincent Tan o ddial ar gyn-reolwr Caerdydd.

Cafodd Mackay ffrae gyhoeddus â Tan wedi i berchennog y clwb ei ddiswyddo’r llynedd, ac mewn cyfweliad ym mis Chwefror eleni fe ddywedodd Tan: “Heddiw ef [Mackay] yw’r arwr; yfory fe fydd hyn yn newid pan ddaw’r gwir allan”.

Mae Vincent Tan hefyd wedi beirniadu Malky Mackay am ei ffordd o drin cytundebau i brynu a gwerthu chwaraewyr.