Golwg360 sydd yn dod a’r diweddaraf o Bencampwriaeth yr IPC yn Abertawe, gan gynnwys hynt a helynt y Cymry.

*Para-athletwyr o bob cwr o Ewrop yn cystadlu

*Dwy fedal i’r Cymry ddoe

*Aled Sion Davies yn ennill aur yn taflu siot

*Medalau efydd i Sugar, Wigley a Howe

21.10: MEDAL EFYDD I BRYDAIN!

Rhagor o lwyddiant i’r Cymry heno, wrth i Laura Sugar gipio efydd yn y 200m T44 i ferched.

Fe orffennodd Bradley Wigley yn drydydd yn y 200m T38 i ddynion ond yn anffodus doedd hynny ddim yn ddigon am fedal, tra bod Rhys Jones wedi’i siomi hefyd ar ôl gorffen yn bedwerydd yn y 200m T37 i ddynion.

17.19: Yn yr awr nesaf fe fydd Laura Sugar, Rhys Jones a Bradley Wigley i gyd yn rhedeg eu ffeinalau 200m nhw hefyd – fe ddown ni a’r canlyniadau i chi nes ymlaen.

17.06: Ail dafliad Aled Sion Davies yn y gystadleuaeth, o 13.66m, yn ddigon i ennill y gystadleuaeth taflu siot F42 felly.

Amser Jordan Howe yn ei ffeinal 200m T35 oedd 28.73 eiliad, hanner eiliad o flaen Niels Stein o’r Almaen oedd yn bedwerydd ond dros ddwy eiliad a hanner yn arafach na Iuri Tsaruk o’r Wcrain oedd yn ail.

16.47: MEDAL AUR I BRYDAIN!

Oes yn wir, medal aur i Aled Sion Davies yn ffeinal taflu siot yr F42 i ddynion! Fo ydi’r cyntaf o’r Cymry i gipio aur yn Abertawe’r wythnos hon!

16.44: MEDAL EFYDD I BRYDAIN!

Medal efydd arall, wrth i’r Cymro Jordan Howe orffen yn drydydd yn ei ras 200m T35 i ddynion – Dmitrii Safronov o Rwsia sy’d fuddugol.

Mae’r Cymry nawr wedi ennill pum medal efydd ym Mhencampwriaeth Ewrop yr IPC eleni, yn ogystal ag un arian.

Oes yna aur i ddod i Aled Sion Davies nawr?

16.41: Dim gwelliant gan Tinnemeier yn ei bumed tafliad, ac felly Aled Sion Davies yn aros yn gyfforddus ar y blaen gydag un tafliad i fynd.

16.35: Pedwar tafliad allan o chwech wedi bod – mae Aled Sion Davies dal ar y blaen gyda thafliad gorau o 13.66m ar eil ail gynnig, ond ers hynny mae wedi cael dwy dafliad annilys.

Fodd bynnag mae’r Almaenwr sy’n ail, Frank Tinnemeier, wedi gwella â phob tafliad tan ei un ddiwethaf, ac mae o bellach ar 12.51m.

Dyw hi ddim yn edrych fel y bydd Aled yn ei cholli hi o fan hyn nawr, ond cawn weld beth fydd yn digwydd yn y ddwy dafliad olaf.

A oes gan Tinnemeier dafliad mawr arall i ddod? Ai Aled fydd yn cipio’r penawdau wrth dorri record?

16.08: Ar ôl y rownd gyntaf o dafliadau yn y ffeinal taflu siot F42 mae Aled Sion Davies ar y blaen, wrth iddo ddechrau gyda phellter o 13.39m.

Mae’r hen Jason Smyth hefyd wedi sicrhau’i ail fedal aur o’r bencampwriaeth, wrth i’r Gwyddel ennill y ras 200m T12 mewn 21.67 eiliad.

15.46: Llai na chwarter awr i fynd nawr nes y bydd cystadleuaeth taflu siot F42 Aled Sion Davies yn dechrau.

Mae hi bellach wedi dechrau glawio ychydig yn Abertawe, ond dw i’n siŵr na wnaiff hynny effeithio’n ormodol ar Aled, na gohebydd golwg360 Alun Chivers sydd yno hefyd.

14.50: Rydym ni felly rhyw hanner ffordd drwy’r cystadlu erbyn hyn, a dyma sut mae hi’n edrych yn y tabl medalau.

Mae Rwsia’n bell ar y blaen bellach gyda 43 o fedalau, gan gynnwys 17 aur, 17 arian a naw medal efydd.

Yr Wcrain sydd nawr yn ail gydag wyth medal aur o’i gymharu â’r saith sydd gan Brydain, er mai dim ond cyfanswm o 19 medal sydd ganddyn nhw yn erbyn y 26 sydd gan Dîm GB.

Yr Almaenwyr sy’n bedwerydd gyda saith medal aur ac wyth medal arian, yr union yr un peth a Phrydain, ond mae gan Brydain fwy o fedalau efydd (11) nac sydd gan yr Almaenwyr (saith).

Dim ond pum gwlad sydd heb ennill unrhyw fedal eto o’r 37 sy’n cystadlu – Estonia, Israel, Lwcsembwrg, Montenegro a Rwmania.

14.41: Wrth i ni aros am gystadlaethau’r prynhawn i ddechrau fe awn ni at rai o ganlyniadau’r bore, gan ddechrau gyda’r Gwyddelod.

Mae Orla Barry wedi cipio medal arian yng ngystadleuaeth taflu disgen F57 y merched, gyda thafliad o 28.13m – Stela Eneva o Fwlgaria enillodd gyda phellter o 31.88m.

Fe orffennodd Jason Smyth o Weriniaeth Iwerddon yn gyntaf yn ras gynderfynol y 200m T12 i ddynion, ac fe fydd yn gobeithio ychwanegu ail fedal aur at ei gasgliad ar ôl iddo ennill y 100m ddeuddydd yn ôl.

Ac yng nghystadleuaeth naid hir T37 y merched fe dorodd Anna Sapozhnikova o Rwsia record Ewropeaidd i ennill y fedal aur gyda naid o 4.46m.

14.05: Fel tamed i aros pryd cyn i gystadlaethau’r Cymry ddechrau nes ymlaen, fe allwch chi wrando ar gyfweliad Alun Chivers gydag Aled Sion Davies yn gynharach yn yr wythnos, yn sôn am ei obeithion yn y bencampwriaeth.

13.01: Fe fydd pedwar athletwr arall o Gymru hefyd yn cystadlu heddiw, i gyd mewn ffeinalau 200m – a phob un ohonyn nhw wedi ennill medalau efydd yn y pencampwriaethau eisoes.

Yn gyntaf fe fydd Jordan Howe yn rhedeg yng nghategori’r T35 i ddynion, cyn i Laura Sugar fynd yng nghategori T44 y merched.

Yna fe fydd Rhys Jones yn rhedeg ffeinal y dynion T37, cyn i Bradley Wigley gystadlu yn ffeinal y T38 i ddynion.

Fe ddaeth y pedwar ohonynt yn drydydd yn eu rasys 100m ddeuddydd yn ôl – sgwn i all un ohonyn nhw wneud hyd yn oed yn well y tro yma?

12.35: Y seren fawr o ran y Cymry fydd yn cystadlu heddiw, heb os, yw Aled Sion Davies.

Fe fydd y gŵr o Ben-y-bont ar Ogwr yn gobeithio cipio dwy fedal aur yr wythnos hon yn Abertawe, i ychwanegu at ei gasgliad helaeth sydd yn cynnwys medalau Paralympaidd o Lundain 2012 ac o Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow eleni.

Mae’n cael ei gyfle cyntaf am fedal yn ffeinal y taflu siot yn nes ymlaen y prynhawn yma.

12.30: Prynhawn da, a chroeso i flog byw golwg360 o bencampwriaeth para-athletau Ewropeaidd yr IPC yn Abertawe.

Rydym ni’n dod atoch chi ychydig yn hwyrach heddiw, a hynny am nad oedd unrhyw un o athletwyr Cymru’n cystadlu y bore yma.

Fodd bynnag, fe fydd pump ohonyn nhw’n cystadlu dros dîm Prydain mewn gwahanol gampau yn nes ymlaen y prynhawn yma, felly fe ddown ni a’r diweddaraf i chi pan fydd eu cystadlaethau nhw’n cychwyn.