Cyflwynwyr Sgorio - Malcolm Allen, Nicky John a Dylan Ebenezer
Mae bron i 600 o bobol wedi arwyddo deiseb i alw ar S4C i beidio â chael gwared â rhaglen uchafbwyntiau pêl-droed Sgorio.

Fe gyhoeddodd y sianel yn ddiweddar fod y rhaglen, sy’n dangos uchafbwyntiau gêmau Uwch Gynghrair Cymru yn ogystal â gêmau Ewropeaidd, yn cael ei dileu.

Mae Gareth Beeney, sydd wedi dechrau’r ddeiseb i alw ar S4C i gadw Sgorio, yn poeni y gallai’r gefnogaeth i Uwch Gynghrair Cymru ddirywio oherwydd y newidiadau.

Dibynnu’

“Wnes i ddechrau’r ddeiseb achos dwi’n gwybod llawer o bobol sy’n dibynnu ar Sgorio i wylio Uwch Gynghrair Cymru,” meddai wrth golwg360.

Mae’r penderfyniad yn rhan o newidiadau yn amserlen chwaraeon S4C fydd yn hefyd yn gweld y gêm fyw mae Sgorio wedi bod yn darlledu ar brynhawn Sadwrn yn dod i ben.

Yn hytrach, fe fydd 30 o gêmau byw yn cael eu dangos ar brynhawniau Sul yn ystod y tymor yn rhan o raglen chwaraeon newydd S4C, Y Clwb, sydd yn dechrau ar 7 Medi.

Gwanhau’r gefnogaeth?

Yn ôl Gareth Beeney, fe fydd yr Uwch Gynghrair yn colli cefnogaeth oherwydd y bydd y gemau byw yn cystadlu yn erbyn darllediadau o gemau Uwch Gynghrair Lloegr ar Sky.

“Bydd sioe newydd Y Clwb ar ddydd Sul, ac mae sioe Sky Sports [Uwch Gynghrair Lloegr] ar ddydd Sul hefyd,” esboniodd Gareth Beeney. “Felly bydd Uwch Gynghrair Cymru’n cystadlu yn erbyn y Premier League.”

Mae’r newidiadau hefyd yn golygu na fydd uchafbwyntiau uwch gynghrair Sbaen, La Liga, yn cael eu dangos ar S4C bellach.

“Nawr bod Gareth Bale yn chwarae yn Sbaen, fe fyddai’n siom colli’r cyfle i’w wylio,” ychwanegodd Gareth Beeney.

Ymateb S4C

Wrth ymateb i’r pryderon fe fynnodd Llion Iwan, Comisiynydd Chwaraeon a Rhaglenni Ffeithiol S4C, fod y sianel dal yn ymrwymo i ddarlledu gemau Uwch Gynghrair Cymru a’u bod yn ffyddiog y bydd dangos gemau ar ddydd Sul yn llwyddiant.

“Mae S4C yn ymwybodol o’r sylwadau a wnaed am y newidiadau i amseroedd darlledu Sgorio,” meddai Llion Iwan. “Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth fawr sydd i’r arlwy bêl-droed ar S4C a ffyddlondeb y gwylwyr i’r gyfres Sgorio dros y blynyddoedd.

“Bydd Sgorio yn parhau i fod wrth galon amserlen chwaraeon S4C, gan symud o ddyddiau Llun a Sadwrn i brynhawn Sul, gan gofleidio holl elfennau’r gêm fyw a’r uchafbwyntiau. Fe fydd hefyd ar gael  ar-lein ar y gwasanaeth Clic am 35 diwrnod.

“Rydym wedi darlledu gemau Uwch Gynghrair ar ddyddiau Sul yn y gorffennol ac mae’r ymateb gan wylwyr wedi bod yn dda iawn.”

Arlwy amrywiol

Pwysleisiodd y sianel hefyd y byddai’r sioe chwaraeon newydd yn cynnig arlwy amrywiol o chwaraeon – gan ddod a’r diweddaraf o gemau’r prynhawn yn Uwch Gynghrair Lloegr i’w gwylwyr.

“Hoffwn bwysleisio bod ein hymrwymiad i bêl-droed Uwch Gynghrair Cymru mor fawr ag erioed a bydd gemau byw ac uchafbwyntiau o gêmau Uwch Gynghrair Cymru a’r newyddion diweddaraf o’r meysydd pêl-droed ledled gwledydd Prydain wrth galon ein darpariaeth chwaraeon ar brynhawn Sul yn y rhaglen Clwb,” meddai Llion Iwan.

“Bydd Clwb yn darlledu chwaraeon byw na fydd ar gael ar yr un sianel arall. Rydym yn ffyddiog y bydd y gwasanaeth yn denu a chyrraedd gwylwyr newydd, yn ogystal â phobl sydd eisoes yn gwylio ein rhaglenni chwaraeon poblogaidd.

“Clwb fydd y lle ar gyfer gwylio chwaraeon o Gymru ar brynhawniau Sul.”