Mae plentyn ifanc o wledydd Prydain wedi boddi ar ôl cwympo i mewn i bwll nofio yn Sbaen.
Fe syrthiodd Theo Lamb, dwyflwydd oed, i mewn i bwll nofio’r ty drws nesa’ i un ei rieni yn Mijas Costa ar y Costa del Sol, echdoe.
Mae adroddiadau lleol yn honni mai ei dad, o Uddingston, yn Ne Lanarkshire, ddaeth o hyd i’w blentyn a cheisio ei achub.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond bu Theo Lamb farw yn y fan a’r lle.
“Rydyn ni’n ymwybodol o farwolaeth dinesydd Prydeinig ar y Costa del Sol ar Awst 18,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.
“Rydyn ni’n baos i gynnig cymorth i’r teulu ar yr adeg trist hwn.”