Mae dwy nyrs arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o esgeulusto cleifion trwy ffugio cofnodion yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod y ddwy nyrs, 29 a 40 oed, ill dwy’n hanu o ardal Pen-y-bont, wedi cael eu rhyddhau ar fechniaeth.

Roedden nhw ill dwy hefyd yn gynharach wedi’u gwahardd o’u gwaith gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bro Abertawe fel rhan o ymchwiliad sy’n parhau.

Mae cyfanswm o 15 o nyrsus wedi cael eu gwahardd bellach gan y Bwrdd Iechyd. Mae tair nyrs arall eisoes wedi’u cyhuddo o esgeulustod bwriadol.