Arglwydd Rennard
Mae cyn weithwraig yn y Cynulliad yn dweud ei bod yn anhapus gyda phenderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol i roi’r gorau i broses ddisgyblu yn erbyn un o’i ffigurau pwysica’.

Bridget Harris oedd un o bedair gwraig a wnaeth gwynion am ymddygiad rhywiol amhriodol gan Chris Rennard, cyn Brif Weithredwr y blaid.

Roedd hynny pan oedd hi’n gweithio yn y Cynulliad yng Nghaerdydd ac mae’n feirniadol o uwch swyddogion y blaid yng Nghymru am fethu â gweithredu ar y pryd.

‘Dim byd’

“Chafodd dim byd ei wneud,” meddai Bridget Harris wrth raglen newyddion amser cinio Radio 4, gan alw ar aelodau eraill i ddilyn ei hesiampl hi a gadael y blaid.

Mae hefyd wedi galw ar Arglwyddi’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ’r Arglwyddi i wrthod derbyn Chris Rennard – yr Arglwydd Rennard – yn ôl yn eu plith.

Mae hi’n anghytuno gyda phenderfyniad y blaid i roi’r gorau i ymchwilio i gyhuddiad fod y cyn Brif Weithredwr wedi dwyn anfri ar y blaid.

‘Hollol amlwg’

“Mae hi’n hollol amlwg ei fod wedi dwyn anfri ar y blaid,” meddai. “Mae Chris Rennard wedi llwyddo i wthio’i ffordd trwy nifer o fylchau yn y rheolau.”

Mae’n dweud y dylai’r blaid – gan gynnwys y swyddogion yng Nghymru – fod wedi gweithredu pan wnaed y cwynion i ddechrau, pan oedd Chris Rennard yn Brif Weithredwr.

Byddai wedi bod yn bosib defnyddio cyfraith cyflogaeth wedyn, meddai, yn hytrach na rheolau’r blaid ei hun.

Mae’r blaid bellach wedi cadarnhau bod Chris Rennard yn gallu parhau’n aelod.

Cyn ymgeisydd Cynulliad yn anhapus hefyd

Roedd un o gyn ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Alison Goldsworthy, hefyd wedi cwyno am ei ymddygiad.

Mae hithau wedi beirniadu’r penderfyniad gan ddweud fod ymddygiad Chris Rennard yn waeth na dim yr oedd hi wedi ei ddweud yn gyhoeddus.