Nazim Malik
Roedd pennaeth elusen, sydd wedi’i gyhuddo o dwyll, wedi talu £100,000 yn ôl i swyddogion y Llywodraeth o’i wirfodd.
Mae Nazim Malik ar brawf yn Llys y Goron Abertawe wedi’i gyhuddo o gymryd £16,000 trwy dwyll o goffrau’r mudiad AWEMA (The All Wales Ethnic Minority Association).
Ond mae’r cyn-Brif Weithredwr yn mynnu nad oedd yn ymddwyn yn dwyllodrus pan ddefnyddiodd ddwy o sieciau’r elusen i dalu ei fil cerdyn credyd personol.
Roedd costau yn ddyledus iddo, meddai.
“Perswadio” Llywodraeth Cymru i gymryd arian yn ôl
Ond ymhellach i hynny, mae Nazim Malik yn mynnu nad oedd yn bod yn anonest chwaith pan dalodd £100,000 yn ôl wedi i AWEMA dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru ar gam.
“Fe gawson ni’r arian Ewrop ddwywaith,” meddai wrth y llys. “Fe gysylltais i ag un o weision sifil y Llywodraeth yn syth i ddweud am hyn, cyn cael clywed fod yr arian yn ddyledus i ni.
“Fe roddais i’r arian o’r neilltu mewn cyfri’ banc,” meddai Nazim Malik wedyn, “ac fe fu’n rhaid i mi eu perswadio, dros nifer o fisoedd, i’w gymryd yn ôl. Fe gymrodd hynny tua blwyddyn.”
Fe gafodd AWEMA ei sefydlu yn 2000 er mwyn hyrwyddo cydweithio a goddefgarwch rhwng y gwahanol grwpiau hil. Fe gafodd Nazim Malik ei benodi’n Gyfarwyddwr dros-dro yn wreiddiol, cyn derbyn y swydd yn llawn amser yn 2001.